EXPLOREMY LIBRARY
Culture & Literature
Barddas

Barddas

Rhifyn Gaeaf 2018 (339)

 Cylchgrawn yn llawn i'r ymylon o erthyglau'n ymwneud â beirdd a barddoniaeth, adolygiadau a cholofnau dan ofal beirdd profiadol, a nifer o gerddi na welodd olau dydd o'r blaen.

Country:
United Kingdom
Language:
English
Publisher:
Cymdeithas Cerdd Dafod Barddas
Frequency:
Quarterly
Read More
BUY ISSUE
$9.92(Incl. tax)
SUBSCRIBE
$41.33(Incl. tax)
4 Issues

in this issue

2 min.
hel dail

Mi ddaeth i law englyn amserol o waith y Prifardd Dafydd John Pritchard. Anfonais yr englyn at y ffotograffydd Sioni Mâr a dweud wrtho am dynnu llun tebyg iddo. Bu Sioni yn crwydro’r llwyni a’r gwinllannoedd am wythnosau cyn taro ar y ddelwedd iawn o’r diwedd mewn llwyn o goed ar lan afon mewn cwr pellennig o’r wlad. Mae’r llun ar y clawr, a dyma’r englyn: Mi wela’i’r coch a melyn - o dan draedyn drwch wedi’r disgyn,a’u clywed, a gwn wedyn:darfod anorfod yw hyn. Mae rhyw hirlwm difarddas rhwng bod dail y rhifyn ôl-eisteddfodol wedi disgyn yn dipiau a bod rhifyn y Gwanwyn yn cyrraedd. Dyna pam y penderfynwyd cyhoeddi Barddas Bach y’Dolig y llynedd, rhyw gerdyn bach tymhorol o rifyn ychwanegol ar y we. Bu’r arbrawf yn llwyddiant, a bydd…

1 min.
i longyfarch myrddin ap daf ydd ar gael ei ethol yn archdderwydd

Yn Myrddin mae rhin Lla’rŵsa bît y byd a’r betws,awen Llŷn a’i dweud union,telyneg deg fel su’r don.Mor firain, ymarferol!Cyweiria’i gerdd fel creu gôl;gam wrth gam mae’n llywio’i gâna’i hadfer nes bo’n hedfan. Ben busnes, daw gan estynei law hael o Gonwy i Lŷna thu hwnt, a fframwaith iauyw ei ffenest ddi-ffiniau.Ei hagor wna, gyrru’nôlhin y ‘gafael’ gaeafol,denu anwes gynhesach;i hen drefn daw awyr iach. Pwy well a gawn-ni fellyi’leuo’r tân, clirio’r tŷ?Myrddin ap – mae rhuddin hwnyn wres iau a groesäwn.…

2 min.
trydarmewntrawiadau!

@llionj #Dwy flynedd i’r dydd heddiw Mae Lille, mae Hal a’i eiliad, mae Chris, mae Sam, mae croesiad, yn siglo o hyd hanes gwlad. 1 Gorffennaf 2018 09:04 #O Rwsia – gyda chariad Sŵn dadrith sy’n dod adref, ni ddaw ffwtbol’nôl i’w nef, crashiodd ar dir Croatia, wedi’r heip, mor fud yw’r ha’. 11 Gorffennaf 2018 21:37 #Blas ar Goch, Gwyn a Glas Do, fe blastrwyd ein bwydydd â ffedog syrffedus y cigydd, Prydeindod sy’n dod bob dydd yn gawlach digywilydd. 24 Gorffennaf 2018 18:02 #Blas ar Feicio Dyn siocled nid un seiclo ydw i, ond wir, trwy ddawn Cymro i greu ei chwedl wrth bedlo, rasio beics yw’nghyffur sbo! 27 Gorffennaf 2018 08:22 #Geraint Gymro a’r Tour de France Y ddraig ar’sgwyddau’r hogyn a’i orfoledd hirfelyn yw’r ddelwedd ar ddiwedd hyn. 29 Gorffennaf 2018 19:02 #Arddangosfa Owain Fôn Y mae haf yn Oriel Môn, un haf…

4 min.
rwp a rhups

Beth yw mwy nag un rhupunt? Ydy, mae gofyn y cwestiynau mawr yn un o ddyletswyddau athro beirdd, a dyna a wneuthum i’r dosbarth sydd gen i yn Aberteifi’n ddiweddar. Cafwyd atebion amrywiol, rhai’n fwy difrifol na’i gilydd, er enghraifft, ‘rhupuntiaid’, ‘rhupaint’, ‘rhupunion’, ‘rhupunau’, ‘rhupunnoedd’? Neu beth am ‘rhup’? Neu, gorau oll, ‘rhups’? Ond beth a ysgogodd y drafodaeth esoterig hon? Wel, awdl Gruffudd Owen, am wn i. Roedd Gruff wedi bod yn annerch y dosbarth ddechrau mis Medi, a hynny ar gychwyn y lap of honour o amgylch Cymru a fydd yn para blwyddyn-ac-oes yn sgil ei lwyddiant ysgubol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Ac ef ei hun a ddywedodd yn ystod ei anerchiad yng Nghastell Aberteifi nad oedd yn siŵr a oedd y rhupunt hir yn fesur cyfreithlon yng nghystadleuaeth…

7 min.
cawr o ddyn

TEYRNGED GWERFYL PIERCE JONES A chlysur chwerw-felys i mi oeddmynychu seremoni yn Ysbyty Llandochau, Penarth, ar 3 Mai, i gyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd ar ran Prifysgol Aberystwyth i Meic Stephens, ac yntau’n bur wael ar y pryd. I’r rhai a gafodd y fraint o’i adnabod, nid syndod fyddai clywed i’r sgript fy nghyrraedd drwy e-bost y prynhawn blaenorol: llith ffurfiol, gynhwysfawr, wedi’i saernïo’n gywrain gan y dyn ei hun ac wedi’i llunio yn fy enw i! (Bydd rhai’n cofio iddo gystadlu dan ffugenw yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar ysgrif goffa i neb llai nag ef ei hun.) Achosodd hyn gryn rialtwch ymhlith llond ystafell o deulu agos a ffrindiau a bu’n rhaid i Meic druan wrando ar deyrnged dipyn mwy anffurfiol – ond un gynnes a diffuant, serch hynny – gyda’r addewid…

11 min.
trwy ddrych

Dyma’r trên olaf lan y Cwm am heno – y Rhodni.Mae’n cychwyn o’r stesion gyda rhialtwch y brifddinasWedi ei gywasgu fel diotyn afreolus ar ei hyd;Y rafwyr yn gweiddi ar ei gilydd i fwstro,Drysau’n cael eu clapso, ambell i Sinderela’n bagluAr ei sodlau uchel tuag at y cerbyd hudol;Twrw gwerinos y Blaenau, epil y disgo a’r cebàb,Acenion digamsyniol pentrefi’r hen faes gloYn diasbedain o un pen y platfform hyd y llall –Fel ar bob diwetydd Sadwrn yn y parthau hyn ers cyn cof. Mae’r hynafgwr dechau’n un o’r seddau blaenYn anesmwytho wrth weld y pâr ifanc gyferbynYn lapswchan gyda chymaint o archwaeth nwydus:Dyw’r hoeden yn gwisgo fawr ddim, mae ei sgertO gwmpas ei chanol a phinc Cwm-twrch yw lliw ei nicers;Anodd hefyd anwybyddu’n llwyr y clebran ewnRhwng dwy drwmpan ganol oed,…