ZINIOlogo
UDFORSKBIBLIOTEK
Cara

Cara

Gaeaf 2020
Tilføj til favoritter

Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!

Læs mere
Land:
United Kingdom
Sprog:
Welsh
Udgiver:
Cwmni Cara
Frekvens:
Quarterly
KØB UDGIVELSE
35,98 kr.(Inkl. moms)
ABONNER
108,05 kr.(Inkl. moms)
3 Udgivelser

i denne udgave

2 min.
golygyddol

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb. Blwyddyn o golled, blwyddyn o boen, a blwyddyn o newid – newid ffordd o fyw a newid blaenoriaethau. Mae’n rhyfeddol sut mae’r geiriau ‘bybl’, ‘hunanynysu’ a ‘cyfnod clo’ wedi mabwysiadu ystyr newydd ers y llynedd. Mae’n siŵr y bydd llawer o bobl yn falch o weld diwedd y flwyddyn hon. Rydyn ni am ddefnyddio’r misoedd ola yma i ystyried beth sy’n bwysig, a phwyso a mesur pethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Treulio amser gydag anwyliaid, manteisio ar y cyfle i ymlacio pan fedrwn ni, a swatio rhag y tywydd oer yn ein swigen ein hunain. Ac ar y nodyn hwn mae colofn Lisa Angharad (t. 4) er clod i’r cwtsh yn werth ei darllen. A hithau newydd fod yn…

4 min.
claddedigaeth y cwtsh?

Dwi’n casáu fy hunan am roi teitl mor farwol i erthygl mewn cyfnod mor ddiawledig o llwm… Ond yn ogystal â sefyll wrth y bar yn yfed siots, ca’l singalongs hyll, poerllyd a gwych ar ddiwedd noson, neu estyn y Weetabix o’r silff dop i’r hen ddyn bach ’na sy’n methu cyrraedd, ydy hi hefyd yn gyfnod go ddu ar yr hygs? Fel person sy’n cyfathrebu ore trwy gyffwrdd, ma marwolaeth yr hyg yn poeni fi. Eitha lot. Es i’n ôl i’r gwaith cwpl o wythnose’n ôl i gyflwyno rhaglen newydd, ac wrth weld criw dwi ’di gweithio gyda nhw ers blynyddoedd am y tro cynta ers misoedd maith, yn amlwg doedd dim hygs. Nath e ’nharo i fel morthwl – fydd yna byth gyhoeddiad eto gan y bwystfil BoJo fod hyg…

7 min.
rhannu’r hanesion cudd

Pobl dduon – ‘yr arall’ yn ein cymdeithas I Mirain Iwerydd James, 18 oed, o Grymych sydd o dras cymysg, mae diffyg amrywiaeth o ran hanes pobl dduon ar y cwricwlwm yn siom enfawr… “Yr unig hanes mae pobl wedi ei weld yw pobl dduon mewn cadwyni fel caethweision, neu luniau erchyll o ddynion du wrth raff dan goeden. Brwydr yw bodolaeth pobl dduon mewn hanes, fel y gwnaethon ni ddysgu yn yr ysgol am fudiad hawliau sifil y 1960au,” meddai. Dydy hi ddim yn diystyru’r pethau hyn am eiliad, meddai, ond mae angen siglad er mwyn gwella’r amrywiaeth yn y dyfodol. “Mae’n andros o bwysig bod y pethau yma’n cael eu dysgu i blant yn y dyfodol, ond o ganlyniad i’r diffyg amrywiaeth sydd ar gwricwlwm ein hysgolion, dwi’n teimlo bod pobl dduon…

7 min.
addasu yn efrog newydd

’Nes i ymweld ag Efrog Newydd am y tro cyntaf efo gwaith. O’n i wedi bod isio ymweld â’r ddinas ers sbel, er mwyn i mi gael deud, mae’n siŵr – dwi ’di bod yna. Felly, pan ges i’r cyfle yn 2002 o’n i’n hapus iawn i ddod. Pwrpas yr ymweliad oedd cael parti SWS (Social, Welsh & Sexy). O’n i’n gweithio efo Stifyn Parri (Mr Producer) ar y pryd, a fedra i ddim diolch digon am y profiad. Ond ’nes i ddim syrthio mewn cariad efo’r ddinas o gwbl. Mi ’nes i syrthio mewn cariad efo’r sushi – do’n i ddim wedi cael ffasiwn beth erioed! Wedi chydig o flynyddoedd, ges i’r cyfle i ddod yn ôl yma, i ddilyn cwrs drama. Do’n i ddim yn siŵr beth i’w neud…

7 min.
efrog newydd

‘Y ddinas sydd byth yn cysgu’ yw dinas fwyaf poblog Unol Daleithiau America, gyda dros 8 miliwn o bobl yn byw ynddi a thros 800 o ieithoedd yn cael eu siarad. Cafodd Efrog Newydd ei chreu’n ddinas yn 1898 pan gyfunwyd 5 ardal – Brooklyn, Queens, Manhattan, Bronx a Staten Island. Mae’n sefyll ar lan harbwr naturiol enfawr, un o’r mwyaf yn y byd. Manhattan: canolfan ariannol y byd, nengrafwyr (skyscrapers) a Central Park. Dyma’r ardal lle roedd y Twin Towers a gafodd eu dymchwel ar 11 Medi 2001, gan ladd bron 3,000 o bobl. Brooklyn: mae nifer o bontydd yn croesi afon East i Manhattan, gan gynnwys Pont Brooklyn. Mae’n ardal gosmopolitaidd gyda nifer o leiafrifoedd ethnig, yn enwedig Iddewon. Yma hefyd y mae Coney Park a nifer o amgueddfeydd nodedig. Queens:…

14 min.
mia yn ysbrydoliaeth i’w mam

Dwedwch rywbeth am eich hanes fel teulu. Emma: Merch o Sir Benfro ydw i. Cefais fy ngeni yn Llandudoch a chael magwraeth hyfryd, a rhoddodd fy rhieni lwyth o brofiadau ffantastig i mi a fy chwaer, Lisa. Mae Mam a Dad yn byw tua deg munud i ffwrdd ac yn fam-gu a thad-cu cefnogol tu hwnt. Dwi wastad wedi ceisio magu fy mhlant innau yn yr un modd ag y ces i fy magu. Cwrddais ag Eurig, tad Mia, pan oeddwn yn fy arddegau ac ar ôl priodi aethom i fyw i Dremain, jyst i’r gogledd o Aberteifi. Bellach ry’n ni’n deulu o bump – Sam yn 14, Mia yn 13 a Lili yn 9. Ry’n ni’n deulu agos, ac un o’r prif bryderon pan aeth Mia yn sâl oedd na fydden…