Cara Gaeaf 2019

Cylchgrawn lliwgar, 72 tudalen, gan ferched am ferched Cymru. Mae'n llawn erthyglau ar iechyd, ffasiwn, teithio, bwyd, materion cyfoes, steilio cartref a llawer mwy!

País:
United Kingdom
Idioma:
Welsh
Editor:
Cwmni Cara
Periodicidad:
Quarterly
4,07 €(IVA inc.)
12,21 €(IVA inc.)
3 Números

en este número

2 min.
golygyddol

Diwedd blwyddyn arall, ac efallai ei bod hi’n dywyll, yn oer, a’r newyddion yn ddigon i’ch digalonni, ond peidiwch â phoeni, mae Cara yma i’ch cynhesu a rhoi cyfle i chi ddianc rhag y cyfan! Ac am wledd aeafol sydd gennym ni i chi y tro hwn, ac ambell flas o’r Nadolig hyd yn oed! Roedd 2019 yn flwyddyn a hanner i’r ddwy chwaer Manon a Lleuwen Steffan. Dyma ddechrau cyfres o gyfweliadau Cara sy’n holi perthnasau benywaidd–yn chwiorydd neu’n fam a merch. Ac ry’n ni wrth ein bodd yn lansio Cystadleuaeth Stori Fer Cara. Ein prif nod ni yw cefnogi menywod Cymru a rhoi cyfle iddyn nhw godi eu llais a dangos eu doniau. Ry’n ni, a’r beirniad, Manon Steffan, yn edrych ymlaen at weld eich cynigion! A diolch yn fawr…

f0001-02
4 min.
plesia dy hun!

Daeth gyment o bethe i’r amlwg wrth recordio’r rhaglenni cynta o’r podlediad ‘Siarad Secs’, ond un peth sy’di bod yn troi a throsi yn’y mhen i yw hyn. Ma merched erbyn hyn yn fwy parod i siarad am ryw (hwrê!), a’i drafod e heb fod â chywilydd, ond ma dal lot o ffordd’da ni i fynd o ran trafod pleser rhyw. Y rheswm ni’n ca’l trafferth trafod pleser yn fy marn i yw oherwydd nag y’n ni cweit wedi derbyn y ffaith ein bod ni i fod i deimlo pleser yn ystod rhyw ac, yn fwy na hynny, nag y’n ni wedi gweithio mas sut ma’i ga’l e. Ac os y’n ni wedi gweithio mas sut i’w ga’l e, ma cymdeithas yn credu bod trafod hynny tam bach yn vulgar…

f0004-01
10 min.
troi’r drol ar y troliau

Dyw negeseuon ymosodol gan gyfrifon dienw’n ddim byd newydd ar-lein, ond mae menywod sy’n ddigon dewr i roi barn ar faterion y dydd fel petaen nhw’n ei chael hi’n waeth na neb. Mae hyn yn arbennig o wir yn ddiweddar, fel y gwelwyd yn ystod y trafodaethau Brexit yn San Steffan a nifer o Aelodau Seneddol benywaidd profiadol wedi rhoi’r gorau i’w swyddi. Un sydd wedi dod yn hen gyfarwydd ag ymosodiadau geiriol yw Bethan Sayed, sy’n Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru. “Mae pobl wedi defnyddio geiriau ffiaidd amdana i, ac wedi rhannu celwydd,” meddai. “Mae’n anodd gwybod lle i ddechrau. Ro’n i ar Twitter cyn unrhyw wleidydd arall yng Nghymru, a dwi wedi gweld sut mae’r byd ar-lein wedi newid. Roedd pobl yn ymddwyn gymaint gwell ar Twitter pan oedd…

f0006-01
1 min.
ydych chi’n greadigol?

Eisiau cyhoeddi stori yn Cara ac ennill £100? Awydd cael eich stori wedi’i darllen gan un o awduron gorau Cymru? Dyma’ch cyfle chi i gystadlu yn ein cystadleuaeth gyntaf: Cystadleuaeth Stori Fer Cara! Rydyn ni’n chwilio am straeon Cymraeg newydd sbon, heb eu cyhoeddi, gennych chi, y darllenwyr! Gall fod yn stori arswyd, yn stori ramantus neu’n ymson–mae’n gwbl agored! Gallwch ennill tanysgrifiad blwyddyn i Cara a thaleb o £100 trwy garedigrwydd Adrahome.com, yn ogystal â chyhoeddi eich stori yn y cylchgrawn. Bydd straeon eraill sy’n agos i’r brig yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan. A phwy well i feirniadu na MANON STEFFAN ROS? Mae’n awdur nofelau i bobl ifanc ac oedolion, ac yn enillydd gwobrau Tir na n-Og, Llyfr y Flwyddyn a’r Fedal Ryddiaith, ac rydyn ni wrth ein bodd ei bod…

f0011-01
2 min.
jîns –gwell nag unrhyw glorian!

Jîns–dyma’r dilledyn sy’n cael lleiaf o sylw ond sy’n cael ei wisgo fwyaf. Maen nhw wedi bod o gwmpas ers tua 150 o flynyddoedd, a’r cwmni cyntaf i’w henwi yn jîns oedd y brand sy’n dal yn hynod o boblogaidd, yr adnabyddus Levi Strauss. Mae’r steil 501 yn dyddio’n ôl i 1890 pan oedd yn ddilledyn i weithwyr, gan ei fod yn gwrthsefyll cael ei wisgo’n rheolaidd gan lafurwyr. Daw’r defnydd denim o dde Ffrainc, o Nîmes–de Nîmes. Yn y 1930au dechreuodd pobl gyffredin wisgo’r dilledyn i ymlacio ar y penwythnos, ac erbyn y 50au roedd yn cael ei gysylltu â’r actor enwog James Dean ac yn dod yn fwyfwy poblogaidd. Dyma’r dilledyn mwyaf dibynadwy yn ein cypyrddau dillad ond hefyd yr un rydyn ni’n casáu ei brynu fwyaf. Mae jîns yn…

f0012-01
4 min.
steiliau jîns ffffasiynol

Mae cwmni yng ngorllewin Cymru, yn ardal Aberteififi, wedi atgyfodi ffffatri oedd yn gwneud jîns flflynyddoedd yn ôl. Wedi gweld y niwed mae’r diwydiant dillad yn ei wneud i’r amgylchedd mae strategaeth Hiut yn ceisio newid hyn drwy greu’r jîns mwyaf bendigedig o ddenim organig, wedi eu torri’n berffffaith ac yn cael eu gwneud gan grefffftwyr Cymreig. Wedi ymweld â’r ffffatri, un o’r pethau wnaeth fy synnu oedd gweld pentwr enfawr o hen jîns tyllog yn aros am driniaeth–maent yn cynnig gwasanaeth sy’n golygu y bydd gennych chi jîns am oes. Os oes twll neu rwyg yn dod o’u gwisgo, mae modd eu hanfon yn ôl at y ffffatri i’w trwsio, neu eu patsio, er mwyn parhau i’w gwisgo. Tyfodd y cwmni wedi i Meghan Markle wisgo pâr o’u jîns,…

f0013-01