‘Pa ŵr yw’r stiward?’
‘Pardon?O, Lloyd, mate. Sa i’n clywed, mun!Pwy sy’n gofyn?’
(Yn y gigmae tiwniau catatonigyn ystwyrian.)
‘Ma’ stori,’na’i gyd, dau funud,’da fii’r plant.’
‘Drwy’r bac?’Sdim access,sori, heb safety assessneu pass, nawr. Ond pwy sy’na’da ti?’
(’Da fi? Haid fwya’di-hid a digadoediady dre, Lloyd, rhai gwyllta’r wlad,cnawon bach sy’n ffricin bored,cynrhon, cywion pwcaoda’u rhieni wedi wenti eistedd o dan lasdenty bar.)
‘’Mond criw o blant bachsy nawr, addo. Se’n rhwyddachpasio ffor’ma na’r canoli’r cornel tawel tu ôli’r gig, Lloyd!’
‘Ok. Der gloi.’
A’r gwahanfur i gonfoio arwyr bach garwa’r byd sy’n agor;sŵn ogof rhwng deufyd,staff annwn a’u clustffonau a sŵn rigsyn rhoi ac, o’n holau,mae gŵyl Tafwyl yn tyfu ar y maes,grym ei amp yn denua sŵn alaw’n croesawu, hyd yn oeda’i nodau’n byddaru,sŵn y tonau sy’n tynnu,Woodstock…