’Nôl ar ddechrau’r Hydref y llynedd, a haul a mwd Môn yn dal yn fyw yn y cof, cafwyd noson arbennig yn y Columba, Caerdydd, wrth i Fragdy’r Beirdd anrhydeddu un o’i sefydlwyr, y Prifardd Cadeiriol Osian Rhys Jones. Roedd gwerthfawrogiad cynulleidfa’r clwb gorlawn yn dangos mor boblogaidd ydi Osian fel bardd, fel enillydd ac fel ffrind, ac roedd y beirdd yn curo’n daer ar y drws i gael ei anrhydeddu – a thynnu ei goes, wrth reswm. Ymhlith y rhai a gyfrannodd gerddi roedd Gruffudd Eifion Owen, Anni Llŷn, Emyr Davies, Jim Parc Nest, Casia Wiliam, Gruffudd Antur, Martin Huws, Aron Prichard, Catrin Dafydd a Rhys Iorwerth. Braf hefyd oedd croesawu Emyr Lewis, un o feirniaid y gadair, i’n plith. Perfformiodd Rhydian Lewis ddetholiad o awdl wych Osian,’Yr Arwr’.…