A thrai’r mis Mawrth oera’ un,a hen obaith, o’i ddibyn,o’i newynnu i’r gwanwyno,drwy’r eira trwm, gyda’r tro,gobaith a ddaw a’r gwybodo fer ein holl esgyrn fodi gylch y rhod glychau’r hafyn brawf o’r diwrnod brafiaf.
Ond fel Cain, milain fu Mawrth.Un bedd rhyfedd o rewfawrth,rhyw Fawrth yn ei ryferthwyac nid Mawrth oedd ein Mawrth mwy.Nid twrw’r ifanc, ond rhewfyd,nid Dewi’n gennin i gyd.Un gaeaf sydd yn gwywoyw’n can yng ngwanwyn y co’.
Yn Soar i’n croesawuyr oedd un wen hardd yn nhŷyr Arglwydd yn ysgwyddoein baich yn fraich am y fro.Roedd Cynthia yma o hydyn ymwybod sawl mebyd;Mrs Dodd, moes Duw ydoedd,Mrs Dodd, Mam, wastad oedd.
O Sul i Sul rhoes olau,rhoi eto iaith i’r to iau,rhoi yn hael o’i haearn hi,rhoi hymnal ei Chwm Rhymni,ac am ei roi yn…