Ryw ddydd, dechreuaf gerdded,gan gadw hen addewid i mi fy hun,fel pe bawn yn rhydd unwaith eto,ac yn ifanc drachefn,yn rhedeg i ffwrdd am byth.
Ryw ddydd, dechreuaf gerdded,heibio lle mae’r cyfarwydd yn troi’n ddieithr.
Ac ymlaen.
Sgrechian plant o’r cae chwarae, rhu’r traffig ar y lon,a llais y gwynt drwy’r gwrych ar hyd y ffordd.
Ymlaen.
Heb neb i weld fy eisiau. Heb neb i ofyn pam.
Dyna beth yw rhyddid: heb neb i dy adnabod,neb i dy anghofio, neb i dy alw ’nol.
Heb ddifaru. Heb ddychwelyd.
Ond sut mae byw felly?Ai dyna’r cwestiwn?Onid gwell yw gofyn pam?
Achos ni ddaw datguddiad i’r cysurus fyth;nid yw’n galw heibio – dyna wers fy mywyd oll.
Felly, ryw ddydd, dechreuaf gerdded,heb ddisgwyl cyrraedd.
Dechreuaf gerdded o’r dref hon ryw ddydd,…
