Gan bwyll bach – ac ar hast yng Nghaerdydd eleni, debyg iawn – mae’r bwlch rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a’r eisteddfodau ‘bychain’ yn lledu.
Lle bu’r brifwyl unwaith yn fersiwn fwy o’r eisteddfodau lleol hynny, mae honno wedi hen droi’n ddigwyddiad sy’n cwmpasu cymaint mwy na dim ond cyfres o gystadlaethau diwylliannol. Yn wir, mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi hen gydnabod pwysigrwydd cynnig adloniant a chyfleoedd masnachol, a’r cyfan yn enw plesio’r punters (a’r noddwyr), wrth gwrs. Ac, am wn i, nid gwneud y Steddfod yn fwy atyniadol i’r sawl nad ydyn’ nhw’n steddfodwyr yw’r flaenoriaeth anysgrifenedig. (Sydd, wrth gwrs, yr un mor hyfryd o eironig a’r modd y mae, dyweder, yr ECB yn ceisio gwneud gemau criced yn achlysuron mwy atyniadol i’r sawl nad ydyn’ nhw’n hoffi criced… Neu’r modd…